Gwel'd cleddyf cyfiawnder yn deffro

("Deffro, gleddyf.")
Gwel'd cleddyf
    cyfiawnder yn deffro,
  Oedd ryfedd, i daro Mab Duw!
Gwneyd T'wysog y nef yn anafus,
  Er mwyn i rai beius
      gael byw!
Dysgleirdeb gogoniant, ac union
  Wir ddarlun o berson y Tad,
Yn ngafael deddf fanwl ofynion,
  I ni dd'od yn rhyddion yn rhad!

Dyoddefodd ein Iesu lidiogrwydd
  Y gyfraith, a gw'radwydd y groes;
Dan bwysau digofaint y Duwdod,
  Gwnaeth gymod am
      bechod pob oes;
Cyfiawnder a'r gyfraith ddysgleirwych
  Sy'n edrych i lawr yn ddi lid,
A'r priodoliaethau yr unwedd,
  Yn gwaeddi "Trugaredd!" i gyd.
Edward Jones 1761-1836

Tonau [9898D]:
Beddgelert (Joseph D Jones 1827-70)
Cyfamod (alaw Gymreig/Seisnig)
Naples (<1876)

gwelir: Yn Sïon mae cyfraith ragorol

("Awake, sword.")
Seeing the sword of
    righteousness awakening,
  To strike the Son of God, was wonderful!
Making the Prince of heaven wounded,
  In order for the sinful ones
      to get to live!
The radiance of glory, and the exact
  True image of the person of the Father,
Keeping the law's detailed requirements,
  For us to go free without cost!

Our Jesus suffered the anger of
  The law, and the shame of the cross;
Under the weight of the Godhead's wrath,
  He made reconciliation for
      the sin of every age;
The righteousness and the brilliant law
  Is looking down without anger,
And the attributes in the same way,
  All shouting "Mercy!"
tr. 2022 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~